Rhannu Cymraeg English

Rhyngwyneb rhwng Gweithdrefnau Adran 5 a Phrosesau Amddiffyn Plant/Oedolion sy’n wynebu Risg

Adref 5

Mewn achosion lle mae oedolyn sy’n wynebu risg neu blentyn adnabyddadwy yn gwneud honiad neu wedi dioddef niwed/camdriniaeth, yna bydd y prosesau perthnasol sy’n ymwneud ag ymchwilio i gam-drin, niwed ac esgeulustod o dan Adran 3 o’r gweithdrefnau hyn yn cael eu cyflawni gan y gwasanaethau cymdeithasol yn unol â
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rhaid rhoi gwybod i Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu am ganlyniad y broses hon.

Fel arfer, bydd trefniadau lleol yn pennu a fydd Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu yn bresennol yn y drafodaeth strategol gychwynnol a gynhelir gan wasanaethau plant/oedolion.

Mae Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu yn parhau i fod yn gyfrifol am fwrw ymlaen â phroses adran 5 os penderfynir ei bod yn bodloni un o’r pedair ystyriaeth maen prawf. Bydd canlyniad prosesau plant/oedolion sy’n wynebu risg yn cael ei fwydo’n ôl i Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu, gyda phresenoldeb a chyfranogiad yn y Cyfarfod Strategaeth Broffesiynol Adran 5.

Rhaid rhoi gwybod i Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu am ganlyniad unrhyw ymchwiliadau a dylid cynnal trafodaeth ynghylch pa wybodaeth y gellir ei rhannu â phlant, rhieni/oedolion a’u teuluoedd mewn perthynas â’r broses honiadau tra bo’r ymchwiliadau hyn yn mynd rhagddynt.

Pan fydd atgyfeiriad yn cael ei wneud o dan Adran 5 Gweithdrefnau Diogelu Cymru a’i fod yn drydydd parti, rhaid i ofal cymdeithasol i oedolion/gofal cymdeithasol i blant siarad â’r oedolyn sy’n wynebu risg/y plentyn sy’n destun yr atgyfeiriad, hyd yn oed pan nad yw wedi gwneud datgeliad ei hun, yn unol â gofynion eraill y gweithdrefnau diogelu, lle mae dioddefwr y gellir ei adnabod (oedolyn sy’n wynebu risg/plentyn) rhaid i ni sicrhau bod cyfle priodol i’w oedran a/neu ei alluedd wedi cael ei ddarparu iddo siarad ag ymarferydd perthnasol i wneud yn siŵr ein bod yn cofnodi ei lais yn y broses.