I bwy y mae’r Gweithdrefnau hyn yn berthnasol
Adref 5
Wrth ystyried cymhwyso’r gweithdrefnau hyn, mae’n bwysig sefydlu’r rôl y mae’r unigolyn yn ei chyflawni, a natur yr honiad sy’n cael ei adrodd.
Mae’r gweithdrefnau hyn yn berthnasol i’r rhai y mae eu gwaith, boed yn waith cyflogedig neu wirfoddol, yn dod â hwy i gysylltiad (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) ag oedolion sy’n wynebu risg neu blant, a/neu os ydynt yn unigolion mewn sefyllfa o ymddiriedaeth. (Mae gwybodaeth am rolau a sefyllfaoedd o ymddiriedaeth yn rhan 6) Mae hefyd yn cynnwys unigolion sydd â chyfrifoldebau gofalu am blant neu oedolion y mae angen gofal a chefnogaeth arnynt, ac y mae eu cyflogaeth/gwaith gwirfoddol yn dod â nhw i gysylltiad ag oedolion sy’n wynebu risg neu blant.
Rhaid ystyried staff/gwirfoddolwyr yr holl asiantaethau partner perthnasol, lleoliadau rheoleiddiedig, y rheini sy’n gweithio mewn gweithgareddau a reoleiddir a gweithwyr proffesiynol cofrestredig/rheoleiddiedig, arweinwyr grwpiau chwaraeon, arweinwyr ffydd, a rolau eraill sy’n dod â’r unigolyn i gysylltiad â phlant/oedolion o fewn y gweithdrefnau hyn.
- Y rheini sydd mewn gwaith cyflogedig (gan gynnwys dros dro), myfyrwyr/hyfforddeion, gweithwyr achlysurol, gweithwyr asiantaeth, a’r rheini sy’n cael eu cyflogi fel Cynorthwywyr Personol o dan drefniadau taliad uniongyrchol.
- Unigolion sy’n gwneud gwaith gwirfoddol di-dâl
- Unigolion sy’n hunangyflogedig ac sy’n gweithio’n uniongyrchol, neu sydd wedi’u contractio i weithio, i ddarparu gwasanaethau i blant ac oedolion sy’n wynebu risg
Enghreifftiau o rolau mewn sefydliadau a allai fod yn berthnasol i’r gweithdrefnau hyn:
- Addysg (Cynorthwywyr cefnogi dysgu; staff cefnogi eraill, perchnogion, pwyllgorau rheoli unedau cyfeirio disgyblion, staff cegin, staff gofalu, myfyrwyr ar leoliad, Athrawon; Penaethiaid; Llywodraethwyr; Goruchwylwyr amser cinio; staff cefnogi eraill, dysgwyr mewn sefyllfa o ymddiriedaeth.)
- Staff Gofal Cymdeithasol (gweithwyr cymdeithasol, swyddogion gofal cymdeithasol, cynorthwywyr gwaith cymdeithasol, gweithwyr cefnogi)
- Hyfforddwyr Chwaraeon
- Athrawon Dawns, Celfyddydau Perfformio
- Staff Iechyd e.e. Meddygon Teulu; Nyrsys; Therapyddion Galwedigaethol; Ymwelwyr Iechyd; Porthorion Ysbytai; Cynorthwywyr Gofal Iechyd; ac ati
- Swyddogion yr Heddlu/Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu
- Y trydydd sector e.e. elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau cydweithredol ac ati
- Gweithwyr Cymorth
- Swyddogion tai
- Gweithwyr digartrefedd
- Gofalwyr Maeth (hunangyflogedig, Sefyllfa o Ymddiriedaeth)
- Mabwysiadwyr (heb eu diffinio’n gyfreithiol fel unigolion mewn Sefyllfa o Ymddiriedaeth, dim ond os yw gwaith gwirfoddol neu eu swydd yn dod â nhw i gysylltiad â phlant/oedolion sy’n wynebu risg)
- Gweithwyr Gofal Preswyl
- Gweithiwr Gofal Cartref
- Y Gwasanaeth Prawf
- Gwasanaeth Tân
- Gwasanaeth Ambiwlans
- Grwpiau Cymunedol
- Grwpiau Ffydd
- Gyrwyr/Hebryngwyr sy’n cefnogi plant ac oedolion sy’n wynebu risg
Cynorthwywyr Personol - Tiwtoriaid preifat
- Aelodau etholedig (sefyllfa o ymddiriedaeth)
Nid yw’n bosibl cynnwys pob rôl y dylid ei hystyried yn y gweithdrefnau hyn.
Gellir gofyn am gyngor gan Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol/Swyddog Dynodedig Diogelu yn yr awdurdod lleol os nad yw’n glir.
- Ydy’r unigolyn hwn mewn cysylltiad ag oedolion sy’n wynebu risg neu blant yn rhinwedd ei rôl (gyda thâl neu’n ddi-dâl)
- a yw’r unigolyn mewn sefyllfa o ymddiriedaeth?
- A yw’r honiad/pryder yn bodloni ystyriaethau’r meini prawf
Awgrymiadau Ymarfer: Rolau a Sefyllfaoedd o Ymddiriedaeth