Rhaid ystyried y gweithdrefnau hyn os honnir bod unigolyn sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg wedi:
Dyma’r Pedwar Meini Prawf Trothwy.
Mae’r meini prawf trothwy hefyd yn berthnasol pan fydd yr unigolyn yn gweithio mewn asiantaeth/lleoliad lle mae gofynion corff rheoleiddio/proffesiynol e.e. yr heddlu, y gwasanaeth prawf, meddygon, athrawon.
Mae gan unigolyn mewn sefyllfa o ymddiriedaeth rôl sy’n cynnwys awdurdod, dylanwad, pŵer neu gyfrifoldeb dros blant neu oedolion sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth. Rhaid i’r unigolyn beidio â chamddefnyddio’r sefyllfa honno er mwyn camfanteisio, manipiwleiddio, nac achosi niwed.