Rhannu Cymraeg English

Diogelu plant sy’n mynd ar goll o’r cartref neu o ofal

CANLLAW ARFER CYMRU GYFAN

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': Chwefror 2021

I’w ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Ar gyfer pwy mae’r canllaw arfer hwn?

Mae’r canllaw hwn yn bennaf ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant (hyd at 18 oed).

Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, addysg, iechyd, yr heddlu, troseddwyr ifanc a phobl ifanc, y gymuned a gwasanaethau cymorth i deuluoedd (gan gynnwys y trydydd sector) a gofal maeth a phreswyl.

Beth yw diben y canllaw hwn?

Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb a rennir gan bawb sydd yn dod i gysylltiad â phlant a phobl ifanc.

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru’n cynorthwyo unigolion ac asiantaethau trwy Gymru gyfan i ddeall eu rolau a’u cyfrifoldebau o ran cadw plant ac oedolion yn ddiogel. Maent yn cefnogi dull gweithredu cyson o ran arfer a gweithdrefnau diogelu.

Mae’r canllaw ymarfer hwn yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am ddiogelu plant sy’n mynd ar goll o gartref neu o ofal. Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Dylai’r ddwy egwyddor ganlynol fod yn sail i drefniadau diogelu effeithiol ym mhob awdurdod lleol:

Mae rhai materion sy’n gyffredin yn yr holl ganllawiau ymarfer diogelu a rhai sy’n benodol i’r mater diogelu dan sylw:

Sail dystiolaeth

Mae’r rhesymau pam fod plant yn mynd ar goll yn amrywiol, cymhleth ac unigryw i blant unigol: Efallai eu bod yn ymateb i ddigwyddiad neu newid yn eu bywydau megis yn amgylchiadau’r teulu neu brofedigaeth. Gwyddom fod plant sy’n mynd ar goll o gartref neu ofal yn aml yn adrodd am broblemau gartref neu yn y cartref lle cawsant eu gosod am eu bod yn derbyn gofal. Efallai eu bod yn anhapus am benderfyniadau a gaiff eu gwneud yn eu cylch gan eu rhieni neu ofalwyr ac efallai eu bod yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt. Efallai eu bod yn mynd ar goll i ardaloedd lle mae ganddynt deulu neu gysylltiadau. Efallai eu bod yn profi esgeulustod neu gamdriniaeth gartref. Efallai eu bod yn cael eu hannog neu eu cymell i fynd ar goll gan oedolion peryglus neu gan blant eraill.

Mae plant mewn rhai amgylchiadau yn fwy tebygol o fynd ar goll na’u cyfoedion: Mae plant sy’n derbyn gofal deirgwaith yn fwy tebygol o fynd ar goll na phlant eraill2. Mae plant sy’n cael eu gosod y tu allan i’w ardal leol mewn perygl penodol o fynd ar goll.3 Ar 31 Ionawr 2016, mewn adroddiad gan Europol nodwyd bod 10,000 o blant ar eu pen eu hunain yn dal heb gofnod ohonynt ar ôl cyrraedd Ewrop, a’r ofn yw bod llawer o’r rhain yn destun cam-fanteisio ac yn cael eu cam-drin at ddibenion rhywiol neu lafur.4

Amcangyfrifir bod tua 60% o blant yr amheuir eu bod ddioddefwyr masnachu mewn plant, sydd dan ofal awdurdodau lleol, yn mynd ar goll.5 Mae bron i ddwy ran o dair o’r plant a gaiff eu masnachu yn diflannu’n llwyr.6

Gwyddom pan fo plentyn yn mynd ar goll eu bod yn agored i ystod o beryglon emosiynol, corfforol a rhywiol: Mae’n bosib y byddant yn ymddwyn yn droseddol er mwyn goroesi neu oherwydd bod oedolion yn camfanteisio arnynt. Gwyddon fod plant sydd wedi mynd ar goll sawl gwaith a’r rhai sydd yn mynd ar goll am gyfnodau hwy mewn perygl uchel o ddioddef camfanteisio’n rhywiol ar blant a/neu gamfanteisio troseddol ac mae’n bosib y cânt eu masnachu pan fyddant ar goll.7

Yr hyn dylid ei wneud pan fo plentyn yn mynd ar goll

Ymdrechion rhesymol i geisio canfod lleoliad y plentyn

Bydd unrhyw un na ellir sefydlu ei leoliad yn cael ei ystyried fel rhywun ar goll hyd nes y deuir o hyd iddo ac y gellir cadarnhau eu llesiant ai peidio. Fodd bynnag, dylid gwneud ymdrech resymol i geisio canfod a sefydlu lleoliad y plentyn cyn adrodd wrth yr heddlu bod plentyn ar goll.

Pan fo plentyn yn mynd ar goll

Person ar goll yw “Ystyrir unrhyw un na ellir sefydlu ei leoliad fel rhywun ar goll hyd nes y deuir o hyd iddo ac y gellir cadarnhau ei lesiant neu fel arall.”8

Pan ddeuir o hyd i blentyn

Ymagwedd yn dilyn achos pan fo plentyn wedi bod ar goll

Ymateb cymesur

Os yw plentyn yn wynebu risg sylweddol yn syth, cysylltwch â’r Heddlu ar 999.

Pan adroddir am blentyn dan adran 130, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a oes sail dros gynnal ymchwiliad dan adran 47 Deddf Plant 1989.

Atodiadau

Continiwwm risg yr Heddlu ar gyfer asesu personau sydd ar goll

Dim peryg amlwg (absennol)
Does dim risg amlwg o niwed un ai i’r un dan sylw nac i’r cyhoedd.

Dylid cytuno ar gamau i ddod o hyd i’r sawl sydd dan sylw neu i gasglu gwybodaeth bellach gyda’r un a roddodd y wybodaeth gychwynnol a gosod amser i adolygu er mwyn ail-asesu’r risg.
Risg isel
Asesir y risg o niwed i’r sawl sydd dan sylw neu i’r cyhoedd fel tebygol ond ddim yn ddifrifol.

Dylid cynnal ymholiadau cymesur i sicrhau nad yw’r unigolyn wedi ei niweidio. Nid yw rhai Heddluoedd yn defnyddio’r categori hwn – gwiriwch gyda’ch llu.
Risg canolig
Asesir y risg o niwed i’r sawl sydd dan sylw neu i’r cyhoedd fe tebygol ond ddim yn ddifrifol.

Mae’r categori hwn yn gofyn am gamau ymateb gweithredol gan yr heddlu ac asiantaethau eraill er mwyn dod o hyd i’r person coll a chefnogi’r person sy’n adrodd.
Risg uchel
Asesir y risg o niwed i’r sawl sydd dan sylw neu i’r cyhoedd fe tebygol iawn.

Bydd y categori hwn bron iawn wastad yn gofyn bo’r heddlu yn rhoi ei adnoddau ar waith – efallai y bydd oedi ar weithredu mewn rhai amgylchiadau eithriadol, megis wrth chwilio mewn dŵr neu ardaloedd coediog mewn tywyllwch. Rhaid bod aelod o uwch dîm rheoli’r heddlu yn rhan o broses archwilio’r ymholiadau cychwynnol a chymeradwyo’r lefelau staffio priodol. Dylai achosion o’r fath arwain at benodi swyddog ymchwilio (SY) a c o bosib USY, a chynghorydd chwilio yr heddlu (CChHedd).

Dylai fod strategaeth y wasg/cyfryngau a/neu gyswllt agos ag asiantaethau allanol. Dylid gweithredu cymorth i’r teulu pan yn briodol. Dylid hysbysu’r MPB ynghylch yr achos heb oedi diangen. Dylid hysbysu Gwasanaethau Plant ar unwaith os yw’r person o dan 18 oed.

Download Child Information Form
N.B. Details contained on this document are subject to regular reviews and updating by document holder


Mae’r sefydliadau hyn yno i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Dylai ymarferwyr roi gwybod i blant am y sefydliadau hyn a sut gellid cysylltu â nhw.

Meic yw’r llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O gael gwybod beth sy’n digwydd yn eich ardal leol i gael help wrth ymdopi â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed os na wnaiff unrhyw un arall. Ni fyddant yn eich barnu a rhônt wybodaeth, cyngor defnyddiol a chymorth i chi newid pethau. Gallwch:

Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Ymchwilio a Chynghori Comisiynydd Plant Cymru sydd am ddim ac yn gyfrinachol. Mae yno fel ffynhonnell gymorth a chefnogaeth os yw plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt yn teimlo bod plentyn wedi cael ei drin yn annheg. Gallwch chi neu eich rhiant/gofalwr:

Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol a phreifat am ddim lle y gall unrhyw un dan 19 oed gael cymorth a chyngor. Mae ar wefan Childline www.childline.org.uk/ dudalennau gwybodaeth a chymorth yn ogystal ag offer i’ch helpu i weithio trwy broblemau ar eich pen eich hun. Os ydych am siarad neu sgwrsio â Childline gallwch:

Os ydych am siarad â Childline yn Gymraeg ewch i www.childline.org.uk/get-support/

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr ar yr hyn i’w wneud pan fo plentyn yn mynd ar goll

Mae plant a phobl ifanc yn mynd ar goll am lawer o resymau gwahanol. Bydd rhai plant yn mynd ar goll am fod rhywbeth wedi digwydd lle maen nhw’n byw, yn yr ysgol neu ymhlith eu ffrindiau neu am eu bod nhw’n teimlo nad oes neb yn gwrando ar eu safbwyntiau nhw ynghylch rhywbeth.

Bydd rhai plant a phobl ifanc yn cael eu hannog i fynd ar goll gan blant eraill neu oedolion peryglus. Pan fo plant a phobl ifanc ar goll maen nhw mewn peryg o niwed difrifol a thra bydd y rhan fwyaf yn dychwelyd yn ddiogel mae’n bwysig gweithredu’n gyflym pan aiff plentyn ar goll.

Camau i’w cymryd pan fo plentyn neu berson ifanc yn mynd ar goll

  1. Ceisiwch gysylltu â’r plentyn neu berson ifanc eich hun a gwirio gyda phobl a llefydd lle credwch y gallai fod.
  2. Os na allwch ddod o hyd i’r plentyn neu berson ifanc ffoniwch yr heddlu ar 101. Peidiwch oedi cyn cysylltu â’r heddlu os oes gennych unrhyw bryderon am y plentyn neu berson ifanc a’ch bod yn credu y gallai niwed ddod i’w rhan.
  3. Dylech roi’r holl wybodaeth y gallwch i’r heddlu ynghylch ymddangosiad y plentyn, gyda phwy y gallai fod, y llefydd y bydd yn mynd iddynt a sut hwyliau oedd arno pan aeth ar goll. Rhaid i chi hefyd rannu unrhyw wybodaeth neu bryderon sydd gennych oherwydd eu bod wedi bod mewn perygl yn y gorffennol neu am fod rheswm dros wneud i chi feddwl eu bod mewn perygl nawr.
  4. Os oes gweithiwr cymdeithasol gan y plentyn neu berson ifanc dylech ddweud wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y plentyn wedi mynd ar goll.
  5. Os oes cynllun eisoes wedi ei gytuno am yr hyn dylid ei wneud os yw plentyn yn mynd ar goll dylech ddilyn camau gweithredu’r cynllun hwnnw.

Pan fo plentyn neu berson ifanc yn dychwelyd adref

Bydd yr heddlu yn cynnal ‘Gwiriad Diogel ac Iach’ er mwyn gwneud yn siŵr fod y plentyn neu berson ifanc yn iawn.

Pan fod plentyn neu berson ifanc yn dychwelyd adref ar ôl bod ar goll neu’n cael eu dychwelyd gan yr heddlu mae’n bwysig gwneud iddynt deimlo’n ddiogel a chysurus.

Mae’n bosib y byddant yn ei chael hi’n haws siarad â rhywun heblaw eu rhiant neu ynghylch pam yr aethon nhw ar goll neu beth sydd wedi digwydd iddynt tra roeddent ar goll.

Os bydd plant neu bobl ifanc yn teimlo y bydd eu rhieni yn grac ac wedi ypsetio gyda nhw mi allai hyn eu hannog nhw i fynd ar goll eto neu i’w hoedi nhw rhag dychwelyd os ânt ar goll eto.

Bydd taflen gan yr heddlu i’ch plentyn/i’r plentyn dan eich gofal gyda gwybodaeth am y gwasanaethau y gallan nhw eu defnyddio er mwyn siarad â rhywun am unrhyw bryderon sydd ganddynt.

Cael help a chymorth

O bryd i’w gilydd mae angen help a chymorth ar lawer o blant a phobl ifanc a’u teuluoedd.

Os carech chi gael peth cymorth ar gyfer eich plentyn a’ch teulu yna gallwch gael gwybod am wasanaethau lleol drwy gysylltu â:

Family Point Cymru

www.familypoint.cymru/families-first-wales/

0300 222 57 57

DEWIS Cymru

www.dewis.wales/children-and-families

Gall yr heddlu neu rywun arall sy’n gweithio gyda’ch plentyn gynnig gwneud atgyfeiriad i’r gwasanaethau cymdeithasol fel y gallan nhw benderfynu os oes anghenion gofal a chymorth ar eich plentyn a pha help y gallan nhw ei gynnig i chi a’ch plentyn.

Os bydd yr heddlu neu rywun arall yn poeni fod eich plentyn mewn peryg o niwed byddan nhw yn adrodd am hyn wrth y gwasanaethau cymdeithasol fel y gallan nhw asesu os oes angen rhoi cymorth ar waith i gadw’ch plentyn yn ddiogel.

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr ar yr hyn i’w wneud pan fo plentyn yn mynd ar goll

Bydd rhai plant yn mynd ar goll am fod rhywbeth wedi digwydd lle maen nhw’n byw, yn yr ysgol neu ymhlith eu ffrindiau neu am eu bod nhw’n teimlo nad oes neb yn gwrando ar eu safbwyntiau nhw ynghylch rhywbeth.

Bydd rhai plant a phobl ifanc yn cael eu hannog i fynd ar goll gan blant eraill neu oedolion peryglus.

Pan fo plant a phobl ifanc ar goll maen nhw mewn peryg o niwed difrifol a thra bydd y rhan fwyaf yn dychwelyd yn ddiogel mae’n bwysig gweithredu’n gyflym pan aiff plentyn ar goll.

Mae plant sy’n derbyn gofal deirgwaith yn fwy tebygol o fynd ar goll na’u cyfoedion.

Mae Plant Digwmni sy’n Ceisio Lloches a phlant a gaiff eu masnachu yn arbennig o debygol o fynd ar goll ac yn llawer llai tebygol o gael eu canfod ar ôl mynd ar goll.

Camau i’w cymryd pan fo plentyn neu berson ifanc yn mynd ar goll

  1. Ceisiwch gysylltu â’r plentyn neu berson ifanc eich hun a gwirio gyda phobl a llefydd lle credwch y gallai fod.
  2. Os na allwch ganfod y plentyn neu berson ifanc ffoniwch yr heddlu ar 101 a chysylltwch â’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Peidiwch oedi cyn cysylltu â’r heddlu os oes gennych unrhyw bryderon am y plentyn neu berson ifanc a’ch bod yn credu y gallai niwed ddod i’w rhan.
  3. Dylech roi copi wedi ei ddiweddaru i’r heddlu o’r Ffurflen Gwybodaeth am Blentyn ar gyfer y plentyn neu berson ifanc.
  4. Rhaid i chi hefyd rannu unrhyw wybodaeth neu bryderon sydd gennych oherwydd y modd yr oed dy plentyn yn ymddwyn neu deimlo cyn mynd ar goll neu am eu bod wedi bod mewn perygl yn y gorffennol neu am fod rheswm dros wneud i chi feddwl eu bod mewn perygl nawr.
  5. Rhaid i chi ddweud wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y plentyn wedi mynd ar goll.
  6. Os oes cynllun eisoes wedi ei gytuno am yr hyn dylid ei wneud os yw plentyn yn mynd ar goll dylech ddilyn camau gweithredu’r cynllun hwnnw.
  7. Cytunwch gyda’r gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu drefniant ar gyfer dychweliad y plentyn pan ddeuir o hyd iddo.

Pan fo plentyn neu berson ifanc yn dychwelyd i’w leoliad

Certain frontline staff who encounter a potential victim modern slavery or human trafficking have a duty to notify the Home Office under Section 52 of the Modern Slavery Act 2015 This requirement applies to the Police, Local Authorities, the National Crime Agency and the Gangmasters Labour and Abuse Authority. Supporting guidance and resources have been issued in relation to the Modern Slavery Act 2015.


1https://www.app.college.police.uk/app-content/major-investigation-and-public-protection/missing-persons/#definition-of-missing

2 The Children’s Society (2011), Make Runaways Safe, p.7

3https://www.childrenssociety.org.uk/sites/default/files/appg-absent-inquiry-final-report-may-2016.pdf

4 K. Shavev Greene and F. Toscano, 2016, Summit report: best practices and key challenges on interagency cooperation to safeguard unaccompanied children from going missing https://researchportal.port.ac.uk/portal/files/3591754/report_SUMMIT_Safeguarding_Unaccompanied_Migrant_Minors_1mrt1.pdf

5 House of Commons, Home Affairs Committee (2009) The Trade in Human Beings: Human Trafficking in the UK Sixth Report of Session 2008–09, Volume 1 London: House of Commons

6 CEOP (2010) Strategic Threat Assessment: Child Trafficking in the UK London: CEOP

7Report from the joint inquiry into children who go missing from care, The All Party Parliamentary Group for Runaway and Missing Children and Adults and the All Party Parliamentary Group for Looked After Children and Care leavers, (2012) www.childrenssociety.org.uk/what-we-do/policy-and-lobbying/parliamentary-work/appg-inquiry-children-who-go-missing-or-run-away-c.

8See 1 above

9See 1 above

Lawrlwythwch y canllaw hwn fel PDF